Description: NRW logo.png

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd ar 7 Gorffennaf 2014.

1.   Negeseuon Allweddol:

Rydym yn gefnogol iawn o Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (y Bil), ei Nodau, y dyletswyddau a’r bwriad. Rydym yn croesawu’n arbennig y newidiadau i greu Nod Cymru gydnerth. Credwn fod y ddeddfwriaeth a sefydlodd CNC a’n diben fel sefydliad eisoes yn gyson â’r Bil ac y bydd yn help i wireddu ein diben.

Mae rhai meysydd penodol lle’r ydym yn gofyn am eglurhad, yn codi pryderon, ac yn gwneud argymhellion. Mae’r rhain yn cwmpasu:

·         Cyd-destun Byd-eang y Bil

·         Cyfyngiadau Amgylcheddol a Newid Hinsawdd;

·         Rôl CNC ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac ar Banel Cynghori Comisiynwyr Cenedlaethau’r Dyfodol;

·         Cosbau ac iawn

·         Cysondeb â deddfwriaeth arall sy’n cael ei datblygu, yn arbennig Fil yr Amgylchedd a Diwygio Llywodraeth Leol

·         Mesurau Cynnydd a’r gofynion o ran Darparu Adroddiadau;

·         Rôl Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol mewn perthynas â Newis Hinsawdd

·         Y ffigurau a ddefnyddiwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol

·         Is-ddeddfwriaeth

Rydym yn cynnig ein harbenigedd o ran datblygu Dangosyddion Cenedlaethol, Canllawiau Statudol a chanllawiau eraill, yn ogystal â chynnig ein harbenigedd i Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wrth i’r naill a’r llall gynhyrchu ei adroddiad ar Dueddiadau’r Dyfodol a Chenedlaethau’r Dyfodol.

 

2.   Rhagymadrodd:

Diben Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal yn gynaliadwy, eu gwella’n gynaliadwy a’u defnyddio’n gynaliadwy. Yn y cyd-destun hwn mae cynaliadwy’n golygu cynllunio a gweithredu gyda’r nod o ddod â budd i bobl, amgylchedd ac economi Cymru, yn awr ac yn dyfodol.

Fel corff sydd â’r dasg o reoli adnoddau naturiol Cymru drwy ddull gweithredu sy’n seiliedig ar wasanaethau ecosystem, mae ein sefydliad ni ynddo’i hun yn gyfraniad tuag at ddatblygu Cymru’n gynaliadwy.

 

Rydym felly yn croesawu deddfwriaeth sy’n cryfhau’r trefniadau llywodraethu yng Nghymru ymhellach fel bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn modd sy’n gwreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy. Rydym yn gweld y Bil fel cam ac arf pwysig er sicrhau datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Credwn ein bod mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â’r gofynion cyffredinol y mae’r Bil yn eu rhoi arnom a’u rhoi ar waith. Rhagwelir y bydd hynny’n digwydd o 2016. Rydym wedi datblygu proses cynllunio corfforaethol a chynllunio busnes sy’n rhoi blaenoriaeth i weithgareddau a fydd yn cyflawni canlyniadau cyffredin yr ydym yn eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru ac yr ydym wedi cytuno arnynt gyda hi, drwy ein hadran noddi. Credwn felly fod ein cynllun corfforaethol cyfredol, sy’n rhedeg tan 2007, eisoes yn cyd-fynd yn dda â gofynion y Bil. Mae’n nodi sut a ble y bydd ein gweithgareddau’n dda i bobl, i’r economi a’r amgylchedd, a sut y byddwn yn gweithredu fel sefydliad da, a hynny i gyd wedi’i seilio ar ddefnyddio gwybodaeth dda a gweithio gydag eraill i gyflawni.

O ran rhoi’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy ar waith, datblygwyd ein Cynllun Corfforaethol drwy roi llais i eraill, a bydd angen inni gydweithio ag eraill i gyflawni ein diben. Mae angen eisoes inni ystyried cenedlaethau’r dyfodol wrth reoli adnoddau naturiol, er enghraifft: adnoddau dŵr. Credwn y bydd y Bil yn help i gyflawni ein diben. Bydd ein Cynllun Corfforaethol o 2017 ymlaen yn cael ei seilio ar amcanion sy’n cyd-fynd â’r Nodau.

Rydym yn croesawu’r cyfle i gyflwyno’n cefnogaeth gyffredinol i’r Bil i’r Pwyllgor, gan dynnu sylw yr un pryd at rai meysydd i’w hystyried a’u hegluro ymhellach. Rydym wedi ymateb o dan benawdau Cylch Gorchwyl y Pwyllgor.

3.   Ymateb manwl: 

Cyffredinol:

Sut y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn gosod cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy wrth wraidd y Llywodraeth a’r sector cyhoeddus yn ehangach;

Pa mor effeithiol y mae’r Bil yn mynd i’r afael â rhwymedigaethau rhyngwladol Cymru o ran datblygu cynaliadwy;

Rydym wedi bod yn rhan o Grŵp Cynghori’r Bil ac rydym yn fodlon â’r bwriad cyffredinol a’r egwyddorion sydd wedi’u nodi yn y Bil. Rydym yn croesawu’n arbennig yr aileirio ar y Nodau er mwyn adlewyrchu adnoddau naturiol yn well a’r rôl y mae ecosystemau iach a chryf yn ei chwarae yn llesiant cymdeithas a’r economi. Rydym hefyd yn croesawu ychwanegu disgrifyddion at y Nodau. Mae’r rhain yn help i roi mwy o ddealltwriaeth ac eglurder ynglŷn â natur integredig pob nod. Rydym yn credu fodd bynnag y bydd y dulliau mesur cynnydd a’r canllawiau statudol yr un mor bwysig i gyfleu bwriad.

Er ein bod yn falch fod Llywodraeth Cymru’n deddfu i roi datblygu cynaliadwy wrth galon llywodraeth yng Nghymru a’n bod yn sylweddoli mai dim ond â chyrff a phrosesau Cymreig y gall y Bil ymdrin, mae gennym bryderon nad yw yn ôl pob golwg yn rhoi fawr o gydnabyddiaeth i’r ffaith ei fod yn gweithredu o fewn tirwedd ehangach – y Deyrnas Unedig (DU), yr Undeb Ewropeaidd (UE) a byd-eang. Bydd hyn yn cynnwys deddfwriaeth a pholisi, yn ogystal â phrosesau economaidd rhyngwladol a systemau amgylcheddol byd-eang. Gallai’r rhain atal Cymru rhag gallu datblygu’n gynaliadwy.

Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn trafod materion sy’n ehangach na Chymru yn ôl pob golwg ond yng nghyd-destun pa agendau datblygu cynaliadwy (DC) o eiddo’r DU, yr UE a Byd-eang sydd wedi helpu i ddylanwadu ar yr egwyddorion yn y Bil. Nid yw’n nodi nac yn trafod mewn unrhyw fanylder y goblygiadau i Gymru o gyflawni’r Nodau, a hithau’n gweithredu o fewn y systemau hyn sy’n ehangach na Chymru. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn trafod rhai rhwystrau rhag meddwl dros dymor hir; er enghraifft, yr anwybyddu ar gostau a buddion y dyfodol. Nid yw’n glir, fodd bynnag, a yw’r Bil yn cynnig, neu’n wir a yw’n bosibl i Gymru wneud rhywbeth gwahanol o safbwynt y rhwystrau hyn; er enghraifft, datblygu ei model arfarnu economaidd ei hun yn cynnwys bwrw cyfrif o’r hyn a olygir i genedlaethau’r dyfodol? Credwn y bydd angen rhoi mwy o ystyriaeth i’r materion hyn – ehangach na Chymru – mewn unrhyw ganllawiau.

Mae perygl hefyd fod Cymru, yn ddiarwybod, yn allforio’i anghynaliadwyedd drwy ganlyn agenda i Gymru’n unig ac na cheir unrhyw welliant ar lefel fyd-eang drwy gyflwyno’r Bil.

·         Sylwadau penodol:   

Egwyddorion cyffredinol y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth yn y meysydd a ganlyn

Y "bwriad cyffredin" a’r "egwyddor datblygu cynaliadwy" a bennir yn y Bil a’r "cyrff cyhoeddus" a nodir;

·         Rydym yn cefnogi’r Bwriad, yr Amcan a’r egwyddor Datblygu Cynaliadwy sydd wedi’u nodi yn y Bil. Rydym yn croesawu sefydlu fframwaith llywodraethu i’r cyrff cyhoeddus. Mae’r fframwaith yn golygu y bydd angen rhoi ystyriaeth integredig i faterion llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yng nghyswllt penderfyniadau a gweithredu sy’n digwydd nawr, ond gan gymryd anghenion cenedlaethau’r dyfodol i ystyriaeth hefyd.

Y dull gweithredu o ran gwella llesiant, gan gynnwys pennu nodau llesiant, pennu amcanion llesiant gan gyrff cyhoeddus a’r dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus;

Y Nodau:

·         Credwn fod y Nodau sydd wedi’u cyflwyno yn y Bil yn adlewyrchu’r canlyniadau i Gymru gynaliadwy yn well. Rydym yn arbennig yn croesawu’r faith fod adnoddau naturiol, systemau a chydnerthedd yn cael eu hadlewyrchu’n well; mae’r dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn arf sy’n helpu i gyflawni DC.

 

·         Bydd y mesurau cynnydd ar gyfer y Nodau yn allweddol er sicrhau bod y cyfeiriad teithio tuag at Gymru gynaliadwy yn cael ei fynegi a’i asesu.

 

·         Bydd canllawiau’n allweddol er mwyn egluro’r cysylltiadau rhwng y Nodau, y mesurau cynnydd a’r amcanion, yn ogystal ag i fanylu ar sut mae cydymffurfio â gofynion y Bil.

 

·         Bydd angen i’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Bil fanylu’n benodol ar y materion nad ymdrinnir â nhw ond mewn modd ymhlyg yn y Nodau. Er enghraifft:

-       Cyfyngiadau Amgylcheddol. Er bod y Memorandwm Esboniadol yn rhoi rhyw eglurder ynglŷn â’r angen i weithredu o fewn cyfyngiadau amgylcheddol, bydd angen i’r canllawiau ddatgan hyn yn benodol. Hefyd, drwy drafod y dull rheoli ar lefel yr ecosystem, bydd angen iddo egluro beth mae’r cyfyngiadau yn ei olygu a sut y’u rhoddir ar waith.

-       Newid Hinsawdd. Ymhlyg yn unig yw newid hinsawdd yn y Nodau, ac ni cheir fawr ddim cyfeirio penodol ato yn y Bil. Rhaid i’r canllawiau ddweud yn glir ble a sut y dylai Newid Hinsawdd gael ei ystyried. Gellid gwneud Newid Hinsawdd yn gliriach yn y Nodau drwy fewnosod ‘yn cynnwys Newid Hinsawdd’ ar ddiwedd y disgrifiad o dan ‘Cymru gydnerth’ yn Nhabl 1;

·         Rydym yn credu bod gennym brofiad ac arbenigedd a fyddai’n fuddiol wrth ddatblygu canllawiau statudol ynglŷn â’r Bil a byddem yn croesawu’r cyfle i gyfrannu.

Amcanion Llesiant:

·         Rydym yn cefnogi gofyniad i bennu amcanion sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn y broses gynllunio gorfforaethol, er mwyn i gyfraniad sefydliad i’r Nodau fod mor helaeth â phosibl.

 

·         Rydym yn disgwyl i’n Cynllun Corfforaethol ôl-2017 fod ag amcanion sy’n cyd-fynd yn llwyr â’r Bil.

Dyletswyddau:

·         Rydym yn cefnogi’r egwyddor DC o ‘ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol yn y penderfyniadau a’r gweithredu a wnawn yn awr’ ac rydym felly’n cefnogi datblygu amcanion sy’n ystyried hyn ac yn nodi sut bydd sefydliad yn cyfrannu cymaint â phosibl tuag at gyflawni’r Nodau.

 

·         Rydym yn cefnogi’r Ddyletswydd, sydd wedi’i nodi yn Adran 7 ac 8 o’r Bil, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff cyhoeddus a enwir yn y Bil osod amcanion llesiant yn unol â’r ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’. Mae’r egwyddorion a nodwyd yn Adran 8 yn egwyddorion DC sydd wedi hen ennill eu plwyf.

 

·         Fel y trafodwyd o dan Nodau uchod, yr egwyddor arall sydd wedi ennill ei phlwyf yw “byw o fewn cyfyngiadau amgylcheddol”, a bydd angen egluro hynny ymhellach yn y canllawiau.

 

·         Rydym yn cefnogi egwyddorion cydweithio ac atal yn arbennig, ynghyd â’r gofyniad am i adnoddau/cyllidebau fod yn gyson â chyflawni’r amcanion. Gobeithiwn fod bwriad hyn yn cynnwys cyfle i gyllidebu’n hyblyg, a hynny wedi’i gysylltu â chanlyniadau. Er enghraifft, cyllidebau atal iechyd yn cefnogi mynediad a gweithgarwch mewn mannau gwyrdd naturiol?

Sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru, rôl, pwerau, cyfrifoldebau, llywodraethiant ac atebolrwydd y Comisiynydd.

·         Rydym yn cefnogi sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol annibynnol gyda phwerau i wneud argymhellion i gyrff cyhoeddus.

 

·         Mae’r Bil fodd bynnag hefyd yn darparu cafeatau sy’n caniatáu i gyrff cyhoeddus beidio â chydymffurfio ag argymhelliad (20(1)(a/b)). Mae’n ymddangos bod hyn yn gwanhau’r brif gosb neu ddarpariaeth iawn sydd wedi’i nodi yn y Bil. Rydym yn sylweddoli bod angen rhywfaint o hyblygrwydd ynglŷn ag ymateb sefydliad i’r materion a nodir gan y Comisiynydd ac rydym felly’n cydnabod y bydd y Bil yn gweithredu o fewn y broses ddemocrataidd. Credwn felly y byddai’r Bil ac unrhyw ganllawiau ategol yn elwa o fwy o eglurder ynglŷn â rôl y broses ddemocrataidd, craffu, ar lefel llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, a thryloywder y trefniadau adrodd, i sicrhau cydymffurfio.

 

·         Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth fod angen i waith rheoli adnoddau naturiol a’r amgylchedd gael ei adlewyrchu ar Banel Cynghori’r Comisiynydd a bod CNC, fel y corff sy’n arwain ar yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yng Nghymru, wedi cael ei nodi fel aelod. Fodd bynnag, ynghyd ag eraill, mae gennym rai pryderon ynglŷn â’r potensial i wrthdaro buddiannau godi rhwng y gwahanol rolau. Gallai’r Comisiynydd gyflwyno argymhellion inni a bod y Panel Cynghori wedi cyfrannu at yr argymhellion hynny a chynnig cyngor arnynt. Bydd ein Cadeirydd ni neu aelod Anweithredol enwebedig yn gwasanaethu ar y Panel Cynghori hwnnw. Nid ydym yn glir sut y caiff hyn ei reoli. Nodwn fod y memorandwm esboniadol yn egluro nad yw rôl ar y Panel Cynghori’n effeithio ar swyddogaethau statudol eraill yr aelodau.

Ceisir eglurhad ar:

·         Y datganiad y bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu cyngor ynglŷn â newid hinsawdd i Weinidogion Cymru. Ai dim ond i Weinidogion y bydd yn darparu cyngor ar newid hinswadd? Beth am y cyrff cyhoeddus?

Awgrymwn y gallai’r testun o dan Rhan 3/18 (1) (a) gael ei ddiwygio, neu y gellir gwneud pwynt ar wahân, i’r perwyl y gall y Comisiynydd

‘..ddarparu cyngor neu gymorth i Gorff Cyhoeddus, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus neu Gyngor Cymuned ynglŷn ag ystyried newid hinsawdd a chyflawni’r nodau llesiant’

·         Ai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol fydd y Comisiynydd Newid Hinsawdd? Beth fydd statws y Comisiwn Newid Hinsawdd yng Nghymru ar ôl i’r Bil hwn ddod yn ddeddf?

Mae’r Comisiwn Newid Hinsawdd yn werthfawr oherwydd y cyfle y mae’n ei ddarparu i drafod y materion cymhleth ynglŷn â newid hinsawdd yng Nghymru mewn fforwm penodol.

·         Byddai’n fuddiol cael gwybod ai’r Sgwrs Genedlaethol a’r Siarter DC yw’r prosesau a gaiff eu defnyddio i gyflawni’r swyddogaeth hon yng Nghymru o ran DC. Er mwyn gwneud y newidiadau radical sy’n ofynnol i wireddu Cymru gynaliadwy, credwn y bydd trafodaethau yn y fforymau hyn am senarios y dyfodol, cyfleoedd a dewisiadau anodd, yn hanfodol.

Sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Statudol, asesiadau llesiant lleol a datblygu/gweithredu cynlluniau llesiant lleol.

·         Er ein bod yn cefnogi fframwaith cryfach er mwyn sicrhau datblygu cynaliadwy wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus lleol ac felly yn croesawu sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant ar sail statudol, mae gennym rai pryderon ynglŷn â diwallu anghenion pob un o’r 22 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel aelod statudol. Mae hyn yn mwy na dyblu ein lefel ymgysylltu ar hyn o bryd.

 

·         I gyflawni bwriad y Bil a galluogi ymgysylltu effeithlon ac effeithiol, bydd angen i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus weithredu ar lefel strategol yn lleol ac, yn unol â’r Bil hwn, bydd angen iddynt fynd ati mewn ffordd integredig i asesu anghenion a chyflawni er sicrhau cydraddoldeb ar draws y tri mater.

 

·         I sicrhau arbedion effeithlonrwydd, byddai’n fuddiol pe câi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant eu sefydlu yn unol â’r cynigion i ddiwygio Llywodraeth Leol yn y “Papur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol”, sy’n destun ymgynghori ar hyn o bryd. Mae’n ymddangos bod potensial i 22 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddatblygu cynlluniau llesiant ac yna, ymhen cwpl o flynyddoedd, byddai’r nifer o awdurdodau lleol ac felly o Fyrddau yn cael ei leihau.

 

·         I fod yn effeithiol, byddai angen i uwch reolwyr sydd â phwerau dirprwyedig i benderfynu a rhwymo adnoddau allu mynychu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddai llai o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus felly yn ein galluogi ni, ac eraill, i ymgysylltu’n fwy effeithlon ac effeithiol. Credwn felly y byddai’n well cychwyn proses y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’r cynlluniau llesiant gyda’r nifer llai o awdurdodau lleol sy’n cael ei gynnig, yn hytrach na’r nifer mwy a chwtogi wedyn. Mae’n ymddangos bod cyfle yn y naill Fil a’r llall i wneud hyn, drwy Gyfarwyddyd Gweinidogol ym Mil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a thrwy uno gwirfoddol ym Mhapur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol.

 

·         Bydd alinio clir â Biliau eraill sy’n cael eu datblygu hefyd yn hanfodol, yn enwedig o ran proses. Er enghraifft, y cysylltiadau rhwng datblygu datganiadau adnoddau naturiol ardal o dan Fil yr Amgylchedd a chynllun llesiant y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd angen eglurder ynglŷn ag amserlenni, yn enwedig o ran argaeledd data, tystiolaeth a gwybodaeth am ecosystemau. Bydd angen alinio hefyd ynglŷn â gofynion cyd gyflawni a darparu adroddiadau ar y cyd ar y blaenoriaethau a nodir, a hynny’n genedlaethol ac mewn datganiadau ardal.

 

·         O ran y rhestr o asesiadau a nodwyd yn adran 36 (3), y dylid eu hystyried wrth ddatblygu cynllun llesiant, rydym yn argymell y dylai Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU, y Strategaeth Newid Hinsawdd a chynlluniau Ymaddasu sectoraidd gael eu hychwanegu. Byddem yn disgwyl y byddai asesiadau ychwanegol, fel y rhai sy’n cael eu cynnig o dan Fil yr Amgylchedd, yn cael eu cynnwys o dan yr opsiwn rheoliadau yn 36 (3) h.

Y dull gweithredu o ran mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant a chyflwyno adroddiadau ar gynnydd;

·         Bydd Mesurau Cynnydd a chanllawiau statudol yn allweddol er mwyn cyflawni bwriad y Bil. Bydd angen i ddangosyddion a monitro adlewyrchu bod Cymru’n gwireddu’r Nodau, yn ogystal â dangos maint cymharol ei defnydd o adnoddau byd-eang y ddaear.

 

·         Mae’r Bil yn nodi nifer o ofynion adrodd. Bydd CNC yn ddarostyngedig i’r Bil a bydd yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, felly mae’n bosibl y bydd yn gorfod cyflwyno adroddiadau drwy ddwy system. Mae gofynion adrodd ar gyrff cyhoeddus unigol yn barod ac ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, felly ein bwriad yw datblygu un trefn adrodd flynyddol sy’n bodloni’r naill ofyniad a’r llall.

 

·         Nodwn fod opsiwn yn y Bil i gyflawni’n dyletswydd DC (gosod amcanion) drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Ni chredwn y byddai modd i’n holl weithgareddau a’n hamcanion, sy’n disgrifio sut y byddwn yn cyfrannu i’r Nodau, gael eu cyflawni drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i gynllun llesiant. Rydym yn annhebygol felly o ddefnyddio’r opsiwn hwn.

 

·         Rydym yn croesawu’r ffaith mai drwy fecanweithiau sy’n bodoli eisoes y cyflwynir adroddiadau, ac na fydd yn haen ychwanegol. Ni ddylai darparu adroddiadau dyfu’n ddiwydiant ar draul cyflawni bwriad y Bil.

 

·         Rydym yn croesawu ac yn cefnogi cryfhau’r craffu’n ymwneud â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r cynllun llesiant. Byddem yn gofyn a oes angen cefnogaeth a hyfforddiant ynglŷn â DC i’r panelau craffu ac ai rôl i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol fyddai hyn?

 

·         Byddem yn croesawu gweithio gyda:

 

Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wrth gynhyrchu Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, i sicrhau bod tystiolaeth o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn cael ei defnyddio.

Llywodraeth Cymru ar adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol, gan ddefnyddio tystiolaeth o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a gwaith sganio gorwelion y dyfodol; a

Llywodraeth Cymru i bennu Mesurau Cynnydd (Dangosyddion Cenedlaethol) lle mae gennym arbenigedd a phrofiad.

4.0 Rhwystrau, canlyniadau anfwriadol, goblygiadau ariannol ac is-ddeddfwriaeth

Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried;

·         Er bod cyfleoedd i helpu i gyflawni bwriad Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy’r holl Filiau sy’n cael eu datblygu ac agenda diwygio Llywodraeth Leol, gall y ffaith ein bod yn gweithredu mewn tirwedd llawn newid o ran polisi a strwythurau, a gyda llai o adnoddau, greu rhwystrau ynddo’i hun. Bydd angen hyblygrwydd i alinio a rheoli’r newidiadau hyn.

 

·         Bydd gweithredu o fewn agendau lleol a byd-eang, yn cynnwys systemau amgylcheddol, yn creu rhwystrau. Er na all y Bil ei hun roi sylw uniongyrchol i’r rhain, credwn y dylai’r deunydd esboniadol ac unrhyw ganllawiau i gyd-fynd â’r Bil godi ymwybyddiaeth o’r mater a nodi’n glir ble mae Cymru’n ystyried unrhyw ateb.

 

·         Rydym yn gweithredu ar draws ffiniau â Lloegr, yn enwedig o safbwynt rheoli adnoddau naturiol. Ni fydd y penderfyniadau a wneir yn y mannau hyn o reidrwydd yn cael eu gyrru gan yr un egwyddorion.

 

·         Gweithgarwch cyrff sector cyhoeddus nad ydynt wedi’u datganoli yng Nghymru, na fyddant yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau.

 

A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;

 

·         Mae perygl fod y broses yn gyrru ffocws ar osod amcanion a darparu adroddiadau, ond nad yw’n cael ei defnyddio fel catalydd i newid sylfaenol yn y ffordd y cyflenwir gwasanaethau, h.y. i gyflenwi seiliedig ar ganlyniadau integredig, tymor hir, sy’n canolbwyntio ar atal.

 

·         Gellir creu’r argraff fod gan Gymru amgylchedd gweithredu gwahanol i fusnesau, a allai gael ei weld fel rhywbeth negyddol. Mae angen rheoli hyn yn dda a bydd angen cyfleu elfennau cadarnhaol gweithredu mewn gwlad fwy cynaliadwy.

 

Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy’n amcangyfrif y costau a’r buddion o roi’r Bil ar waith);

 

·         Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cam adolygu perthnasol i wneud y ffigurau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn fwy pendant. Nid ydym yn glir ynglŷn â data ffynhonnell ffigurau CNC ar hyn o bryd, ac mae’n bosibl fod y costau hyn yn rhy isel. Fodd bynnag, fel sefydliad y mae angen inni weithio gydag eraill i gyflawni’i bwrpas, rhaid ystyried hyn yn erbyn y ffaith y byddem am weithio gyda phartneriaethau allweddol i gyflawni hyn, a gall gynhyrchu effeithlonrwydd.

 

·         Os sefydlir Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fel y nodir yn y Bil hwn, h.y. bod y bartneriaeth strategol yn rhoi ystyriaeth integredig ac yn cyflawni mewn modd integredig ar draws materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ar y lefel leol, byddem yn gweld hyn fel buddsoddiad gwerth chweil. Bydd hyn yn bartneriaeth gyflawni allweddol a byddem yn alinio adnoddau’n unol â hynny. Fel y trafodwyd uchod, byddai hyn yn fwy effeithlon gyda llai o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

·         Yn yr adran ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, credwn y byddai wedi bod yn fuddiol defnyddio’r dull a ddefnyddiwyd yn elfen cynllunio corfforaethol yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy’n ystyried cost bontio ac yna gost reolaidd. Bydd gwaith i sefydlu’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, eu cylch gwaith, canllawiau ac ati, a bydd hyn oll yn cynyddu’r costau cychwynnol o’u cymharu â’r costau rheolaidd. Hefyd, mae CNC yn cyfrannu i asesiadau anghenion rhai Byrddau Gwasanaethau Lleol ar hyn o bryd a bydd angen iddo wneud hynny i’r holl Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol, ond nid yw wedi’i restru o gwbl yn yr adran hon.

 

·         O ran yr adran ar gynllunio corfforaethol, teimlwn y byddai hyn yn waith craidd – dim ond ffordd wahanol o weithio mewn rhai achosion – ac na ddylai felly achosi costau rheolaidd ychwanegol sylweddol.

 

·         Drwyddi draw, rydym yn rhagweld cynnydd bach yn yr adnoddau am yr ychydig flynyddoedd cyntaf, ond ar ôl iddo ennill ei blwyf byddai Cynllunio Corfforaethol ac ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn dod yn waith craidd o fewn CNC.

 

 

Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl sy’n rhoi crynodeb o bwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth).

 

·         Nodwn fod pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth i ddiwygio’r Nodau llesiant. Tra gallwn werthfawrogi’r angen i ganiatáu ar gyfer newid dros amser, mae’r Nodau’n pennu’r canlyniadau a’r weledigaeth tymor hir i Gymru ac ni ddylai felly fod yn bosibl eu newid yn y tymor byr. Rydym yn falch felly mai proses gadarnhaol yw’r pŵer hwn, y mae angen ei chymeradwyo mewn cyfarfod llawn.

 

·         Rydym yn cefnogi 36 (3) h sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried Asesiadau eraill. Rydym yn argymell bod Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU yn un a ddylai gael ei restru yn awr, ymysg eraill, ond rydym yn croesawu’r gallu i ychwanegu eraill dros amser wrth iddynt ymddangos.

 

·         Yn unol â’r sylwadau sydd wedi’u gwneud yn barod, rydym hefyd yn cefnogi pwerau yn 43(2(a) sy’n caniatáu i Weinidogion fynnu bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn adolygu’i gynllun llesiant os nad yw’n cydymffurfio i raddau sylweddol. Rydym hefyd yn cefnogi 46(2) sy’n caniatáu i Weinidogion roi cyfarwyddiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddau neu ragor o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus uno, a chydweithio o dan 47(2).